Creu cwrs codio Cymraeg
Dros yr Haf yma roeddwn i’n llwyddiannus yn fy nghais ar gyfer un o grantiau bach y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (£2500), er mwyn dechrau prosiect o’r enw “Creu adnoddau aml-gyfrwng rhaglennu cyfrwng Cymraeg”. Roedd dau brif nod i’r prosiect, i ddysgu a chyfathrebu sgiliau cyfrifiadurol yng Nghymraeg ar gyfer myfyrwyr israddedig ac hefyd ôl-raddedig.
Ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig a myfyrwyr prosiect, datblygon ni wefan yn curadu ac addasu adnoddau er mwyn cynnal ymchwil ailgynhyrchiadwy cyfrifiadurol. Ar gyfer y myfyrwyr israddedig, datblygon gyfres gynhwysfawr o fideos er mwyn dysgu’r iaith rhaglenni Python. Gydag arian y grant roeddwn yn gallu cymryd ymlaen myfyrwraig, Stephanie Jones o’r Ysgol Mathemateg yng Nghaerdydd, i ddatblygu a recordio’r fideos.
Y Nod
Ar hyn o bryd mae prinder adnoddau cyfrifiadureg agored cyfrwng Cymraeg. Rydym ni’n gobeithio dechrau llenwi’r prinder yma er mwyn:
- Cefnogi’r addysgu Python cyfrwng Cymraeg a digwyddir yn barod ym mhrifysgolion Cymru (e.e. ym Mhrifysgolion Caerdydd, Aberystwyth ac eraill) - ac felly’n cefnogi addysg uwch cyfrwng Cymraeg, ac yn dyfnhau profiad y myfyrwyr yma.
- Datblygu codwyr a pheirianwyr meddalwedd y dyfodol sy’n gyfforddus yn gweithio’n ddwyieithog.
- Cyfathrebu a sgiliau cyfrifiadurol mewn ffordd fwy personol, hygyrch, a pherthnasol i’r gymuned Gymraeg.
Y Cynnyrch
- Set gynhwysfawr o 28 fideo sy’n cwmpasu lawr lwytho, gosod a rhedeg Python; cystrawen sylfaenol; a meddwl algorithmig trwy ddatrys problemau enghreifftiol. Y nod yw iddynt ategu a chyd-fynd gydag addysgu ffurfiol mewn prifysgolion. Maent ar gael fan hyn ac fan hyn: https://www.youtube.com/playlist?list=PLSkPgScy-DkFdCzwJW9X_B9IfTouojem7
- Wefan cyfrwng Cymraeg sy’n rhan addasiad o weithdy datblygu meddalwedd ymchwil, a rhan curadiad o adnoddau sgiliau ymchwil cyfrifiadurol. Mae’n cynnwys pynciau megis ymchwil agored, sgiliau awtomeiddio, ymarferion codio da, a rheolaeth fersiwn. Mae’r addasiad yma i wefan yn cynyddu ei argaeledd i’r gymuned ymchwilwyr Cymraeg eu hiaith, a hefyd yn ymddwyn fel adnodd cyfeirio. Mae ar gael yma: https://sgiliauymchwilcyfrifiadurol.github.io/
Diolch yn fawr i’r Coleg Cymraeg am y cyfle i gyflawni’r prosiect, i Steph am ei gwaith caled, ac i’r Ysgol Mathemateg am ei chefnogaeth; a gobeithio bydd yr adnoddau o fudd i fyfyrwyr.