Wythnos diwethaf, ar y 25ain, 26ain a 28ain o Fedi, ges i lot o hwyl yn cynnal cwrs codio cyntaf Gwersyll Caerdydd yr Urdd.

Mudiad ieuenctid iaith Cymraeg cenedlaethol yw’r Urdd, sy’n gweithio gydag ysgolion trwy gydol Cymru i gynnal gweithgareddau allgyrsiol i blant trwy gyfrwng y Gymraeg. Maen nhw’n rhedeg tri gwersyll trwy gydol y flwyddyn - mae gwersylloedd Llangrannog a Glan-llyn llawn weithgareddau heini, awyr agored, a chwaraeon; tra bod gwersyll Caerdydd fel arfer llawn weithgareddau diwylliannol. Eleni, oherwydd rhwystradau’r coronafeirws, roedd angen ffeindio gweithgareddau amgen a fydd yn gweithio ar-lein - a ges i fy ngofyn i gynnal cwrs codio.

Rydw i eisoes wedi dylunio dau gwrs codio: cyfres o fideos o dan nawdd y Coleg Cymraeg, a modiwl MSc. Ond roedd dwy sialens newydd y tro hwn: cynnal y cyfan o bell dros Zoom, a dysgu plant oedran ysgol! Roedd angen rhywbeth “hwyl”.

Felly, gyda lot o help o Ceren Roberts o wersyll Caerdydd, dyma’r cwrs. Cynhalion ni tri gweithdy dwy awr, dros Zoom, gyda phob plentyn yn defnyddio Google Colab i ysgrifennu a rhedeg y cod. Roedd Google Colab yn anhygoel, gwasanaeth cwmwl am ddim ar gyfer Jupyter Notebooks (gan gynnwys pip), sy’n gweithio’n union fel gweddill Google Docs. Y gweithdai oedd:

  • Gweithdy 1: Tynnu lluniau gyda ColabTurtle. Y nod oedd ail-greu’r llun cwch isod, ac ar yr un pryd ymarfer defnyddio Google Colab, ymarfer ysgrifennu a rhedeg cod, a dechrau meddwl yn algorithmig.
  • Gweithdy 2: Cwblhau ymarferion yn ymwneud â newidynnau rhifol, newidynnau string, ailadrodd gyda lwpiau-for, ac amodau yn defnyddio datganiadau-if. Er bod e’n swnio fel bod lot o stwff fan hyn am ddwy awr, roedd pob ymarfer digon syml ac yn adeiladu lan i’r gweithdy olaf.
  • Gweithdy 3: Seiffro a dadseiffro codau. Yn defnyddio’r cysyniadau o’r gweithdy blaenorol, nes i roi cod i redeg seiffr Caesar. Yr ymarferion oedd defnyddio’r cod hyn, addasu’r cod i dadseiffro negeseuon, a’i addasu i seiffr Vigenère.

(OK, ie roedd y seiffr Vigenère yn anodd!)

16 o blant oedd i gyd, rhwng 11 a 15, a defnyddion ni “breakout rooms” Zoom er mwyn gallu siarad â phawb yn bersonol heb darfu ar bawb arall. Bwriad arall oedd cael y plant yn siarad gyda’i gilydd a helpu’i gilydd. Ond mae’r plant yn ifanc, ac yn dod o ysgolion gwahanol felly roedden nhw bach rhy swil i allu gwneud hwn, a ges i bach o adborth dda yn dweud efallai bydd breakout rooms o barau yn gweithio’n well. Serch hynny roedd rhedeg cwrs fel hyn dros Zoom yn gweithio’n dda!

Roeddwn i mor hapus gyda sut wnaeth pob un o’r plant ymateb a gweithio trwy’r gweithdai. Ac wrth gwrs, ar ôl ond chwe awr dydw i ddim yn disgwyl i’r iddynt allu deall yr holl syniadau a chodio’n annibynnol. Ond nid hwnna yw’r pwynt! Y pwynt oedd rhoi flas ar bwnc gwahanol a chael bach o hwyl trwy’r iaith Cymraeg yn ystod y cyfnod od hwn. A dwi’n credu roedd yn llwyddiant.

Mae’r gweithdai ar gael fan hyn.