Cymryd Cyfartaleddau Newidiol gyda Chyfyngau Afreolaidd
Jan 18, 2022
Ar hyn o bryd does gan Pandas ddim gallu neis i gymryd cyfartaleddau newidiol o gyfresi amser gyda chyfyngau afreolaidd, yn enwedig os nad yw’r data yn y fformat datetime. Mae gan y llyfrgell traces y gallu hwn. Dangosaf gydag enghraifft yn Ciw.
Ystyriwch giw M/M/c gydag amserlen ar gyfer y gweinyddion, 1 gweinydd am dri diwrnod, a 2 gweinydd am y pedwar nesaf, sy’n rhedeg am bedwar flwyddyn:
Fan hyn rydym yn defnyddio traciwr cyflwr er mwyn tracio cyflwr y system dros amser. Mae’n recordio hanes cyfan y newidiadau mewn cyflwr, hynny yw cyfres amser gyda chyfyngiadau afreolaidd:
Nid yw plotio hwn yn rhoi llawer o fewnwelediad, gan ei fod rhy stocastig:
Mae gan y llyfrgell traces y gallu i gymryd cyfartaleddau newidiol dros y gyfres amser afreolaidd hon, gydag unrhyw faint ffenest sydd angen, e.e. cyfartaledd newidiol 7-diwrnod, cyfartaledd newidiol 30-diwrnod, neu gyfartaledd newidiol chwarterol:
MAe hwn yn rhoi rhywbeth bach mwy deongladwy:
Mae’r llyfrgell traces hefyd yn ein galluogi i wneud hwn o ffeil, ac rydw i’n credu bod hwn yn neisiach:
Wrth gymryd cyfartaledd newidiol gallwn allbynnu cyfres pandas, felly mae hwn yn gydnaws gyda dadansoddiadau eraill hefyd. Mae’r llyfrgell hwn lot neisiach na fy null blaenorol o drawsnewid y data i datetime a nôl!