Penwythnos diwethaf es i i Lundain ac ymwelais â’r Amgueddfa Gwyddoniaeth (yn rhad ac am ddim!) Mae’n amgueddfa enfawr a nes i ddim hyd yn oed gorffen edrych ar un llawr, ond un o’r ystafelloedd mwynheais i oedd yr Oriel Winton sy’n canolbwyntio ar fathemateg. Dyma bedwar arteffact, sy’n gysylltiedig gyda fy addysgu neu fy ymchwil, cefais yn ddiddorol iawn:

  • Delweddu Data Florence Nightingale (1859)

    Dyma lyfr gan y cymdeithasegydd Harriet Martineau sy’n cynnwys delweddu data cynnar y dyfeisiwyd gan Florence Nightingale. Dewisodd Florence Nightingale y diagram rhosyn hwn yn arbennig er mwyn dangos natur gylchol y flwyddyn a’i effaith ar farwoldeb. Hi wnaeth arloesi nyrsio sail data, gan gynnwys defnyddio delweddu data. Mae’n anodd dychmygu sut wnaeth unrhyw un deall unrhyw beth cyn delweddu data!

  • Cyfrifiannell Ods Julius (1933)

    Yn 1928 dechreuodd betio parimutuel (totes) ar gyfer rasio ceffylau a milgwn ym Mhrydain, yn golygu caiff ods eu cyfrifo ar sail cyfanswm y betiau, yn hytrach na chael ods sefydlog. Roedd rhaid cyfrifo ods yn gyflym ac felly dyfeisiodd y Selandwr Newydd George Julius y peiriant hwn. Mae’r safleoedd llorweddol yn cynrychioli’r buddsoddiad ar bob un o’r rhedwyr yn y ras; mae’r safle fertigol yr un peth ar gyfer pob un, ac yn cynrychioli cyfanswm yr arian. Felly mae graddiant yr hypotenws, hynny yw cotangiad yr ongl, yn cynrychioli’r ods. Fan hyn rwy’n hoffi sut mae cyfuno dwy ddisgyblaeth, geometreg a thebygolrwydd, yn galluogi cymwysiadau ymarferol.

  • Model Bill Phillips o’r Economi (1949)

    Mae’r peiriant hon, y dyfeisiwyd gan Selandwr Newydd arall Bill Phillips, yn gynrychioliad ffisegol o’r economi, gan ddefnyddio dŵr! Mae llif y dŵr trwy amryw o falfiau a thanciau storio yn cynrychioli gwahanol rannau o’r economi, er enghraifft incwm, cynilion, gwario, ayyb, Y beth mwyaf cŵl am hwn yw taw’r model mathemategol y tu ôl i hwn yw system o hafaliadau differol, sef deinameg systemau. A sut ydym yn cysyniadu deinameg systemau? Diagramau stoc a llif. A dyna yn union beth yw hwn, ond mewn ffurf ffisegol! Tua degawd cyn Forrester.

  • Rhagfynegydd Goroesiad Ysbyty Llundain (1972)

    Y peiriant hwn gan Douglas Maynard oedd un o’r defnyddiau cyntaf o ddysgu peirianyddol er mwyn rhagfynegi goroesiad. Roedd yn defnyddio ffurf gynnar o rwydwaith niwral er mwyn rhagfynegi o batrymau electroenceffalograffeg os bydd cleifion naill ai yn dod yn ymennydd yn farw, neu’n goroesi. Roedd dal angen dehongliad o’r patrymau electroenceffalograffeg gan arbenigwyr er mwyn mewnbynnu’r nodweddion priodol, ac roedd yn dysgu o ddata’r gorffennol.

Hefyd cefais yn arbennig o ddiddorol i weld bod yna arddangosfa o feddalwedd mathemategol, yn cydnabod y pwysigrwydd sydd ganddo yn ymchwil mathemategol modern, a hefyd y newid achosodd yn y bôn i ffocws dyddiol mathemategwyr.

Roedd yr unig oriel arall roedd gen i amser i’w ymweld (mae’n amgueddfa enfawr!) yn dweud stori hanes gwyddoniaeth yn Llundain. Yn ogystal â’r offerynnau gwyddonol hanesyddol prydferth yr oedd yn cael eu harddangos, roedd yn ddiddorol iawn darllen am gymhellion ac agweddau pobl allweddol yr amser. Er enghraifft nod un o’r cyfnodolion gwyddonol cyntaf, Transactions of the Royal Society oedd cofnodi manylion arbrofion felly gallant gael eu hailadrodd yn ddi-baid, yn dangos fod ailgynhyrchadwyedd wrth galon sylfaeni wyddoniaeth nôl yn 1665! A chafodd nifer o’r offerynnau gwyddonol mwyaf defnyddiol eu creu er mwyn sicrhau eu bod yn rhad ac yn hygyrch i’r bobl gyffredin, yn hytrach nag ond fod ar gael i’r crachach. Serch hynny roedd yr amgueddfa hefyd yn esbonio nad oedd Isaac Newton yn cytuno gydag egwyddorion gwyddoniaeth agored, ac ysgrifennodd ei Principia Mathematica mewn iaith gymhleth a rhwysgfawr ar bwrpas er mwyn i ond yr elet ei ddeall.