Yr wythnos hon bu farw Ei Mawrhydi Brenhines Elizabeth II. Mewn cyfweliad ar y newyddion gwnaeth un atebwr dweud “Rydym ni mor lwcus i fod wedi byw yn ystod ei theyrnasiad”. Gwnaeth hwn achosi i mi feddwl, yn union pa mor lwcus ydyn ni? Fan hyn rydw i eisiau cyfrifo’r canran o fywyd Saesneg cafodd ei fyw yn ystod ei theyrnasiad.

Byddaf yn cyfyngu fy nadansoddiad i Loegr yn unig gan fod ganddyn nhw hanes brenhinol ac ystadegau poblogaeth fwy cyson na’r cenhedloedd a theyrnasoedd eraill. Byddaf ond yn ystyried hanes Lloegr ers 1066, ymosodiad William y Concwerwr.

Ers hynny mae Lloegr wedi cael 42 o frenhinoedd a breninesau o William I i’r newydd cyhoeddedig Charles III. Felly mae Elizabeth II wedi teyrnasu dros 1/42 = 2/3% o fywyd Saesneg ie? Na, gan fod pob brenin neu frenhines yn teyrnasu am wahanol ystodau.

Mae Elizabeth II wedi teyrnasu o 06/02/1952 i 08/09/2022, hynny yw 70.57 blwyddyn, allan o 956.7 blwyddyn o hanes Loegr. Felly mae Elizabeth wedi teyrnasu dros 70.57 / 956.7 = 7.376% o fywyd Saesneg? Dim yn angenrheidiol, gan fod lot mwy o bobl yn byw yn Lloegr heddiw nag oedd yn yr oesoedd canol, felly mae mwy o fywyd i deyrnasu drosto.

Mae’r tudalen Wikipedia hon yn cyfuno nifer o ffynonellau er mwyn rhoi brasgyfrif o boblogaeth Lloegr o 1086 hyd at heddiw. Trwy ryngosod rhwng y pwyntiau yn llinol:

Yn y ddelwedd hon gallwn weld cynnydd cloi yn y boblogaeth o’r deunawfed ganrif gynnar oherwydd y chwildro diwydiannol. Gallwn hefyd gweld cwymp yn y boblogaeth yn ystod y deuddegfed ganrif achos y pla du, a chrych yn ganol yr ugeinfed ganrif oherwydd y ddwy ryfel byd.

Mae’r arwynebedd o dan y gromlin hon yn rhoi brasgyfrif ar gyfer cyfanswm o flynyddoedd bywyd y bu fyw yn Lloegr rhwng 1066 a heddiw. Felly mae sleisiau culach yn gallu rhoi brasgyfrif o faint o flynyddoedd bywyd y bu fyw yn Lloegr mewn ystod fyrrach, er enghraifft teyrnasiad brenin neu frenhines. Mae’r arwynebedd lliw isod yn cynrychioli cyfanswm y blynyddoedd bywyd y bu fyw yn Lloegr yn ystod teyrnasiad Brenhines Victoria (1837-1901).

Mae rhannu hwn gan yr arwynebedd o dan y gromlin gyfan yn rhoi brasgyfrif o’r ganran o nifer o flynyddoedd bywyd y bu fyw mewn Lloegr o dan y brenin neu’r frenhines hwnnw. Gwnes i hwn ar gyfer pob un o’r 42 brenin a brenhines. Mae’r tabl isod yn rhestri rhai o’r rhai mwyaf enwog:

Enw Canran
Elizabeth II 34.8%
Victoria 13.9%
George V 9.4%
George VI 6.1%
George III 5.0%
Edward III 1.765%
Elizabeth I 1.668%
Edward I 1.638%
Henry VIII 0.982%
Richard III 0.0465%
Edward VIII 0.3456%
Edward V 0.004588%

Felly, yn ôl y mesur hwn, rydw i’n brasgyfrif bod y Frenhines Elizabeth II wedi teyrnasu dros 34.8% o fywyd Saesneg ers 1066! Dros draean. Tra bod Edward V bechod ond wedi teyrnasu dros 0.004588% o fywyd Saesneg, am lai na tri mis tra wedi’i gloi yn Nhŵr Llundain. Mae’n ddiddorol gweld bod bu fyw 0.6136% o fywyd Saesneg yn ystod yr interregnum, y cyfnod o un ar ddeg o flynyddoedd yn ganol yr ail ar bymthegfed ganrif lle oedd gan Loegr dim brenhiniaeth o gwbl.

Mae’r foment hanesyddol hon hefyd wedi fy ysgogi i ddiweddaru fy ymdrech blaenorol i ddelweddu llinell amser brenhinol Lloegr:

Nodyn: Trwy gydol y post hwn rydw i wedi tybio fod gan bob flwyddyn 365 diwrnod. Nid yn unig yw hwn yn anwybyddu blynyddoedd naid, ond hefyd yn gorsymleiddio’r llanast o galendrau hanesyddol a hydoedd a labelai’r blynyddoedd.