Prosiectau
Prosiectau presennol a gorffenol.
Presennol
- 2023-: Modelu mathemategol o ymddygiad yfed alcohol ôl-bandemig
- Cyd-goruchwyliwr gyda Elin Williams (with Prof. Daniel Gartner and Prof. Paul Harper)
- Prosiect PhD gyda Bwrdd Partneriath Rhanbarthol Gwent.
- 2022-: Uned Modelu Dadansoddi Data
- £545,760 - Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro
- Cyd-Ymchwilydd gyda Prof. Paul Harper yn PI, Prof. Daniel Gartner yn CI, a Dr Vincent Knight yn CI.
- Creu uned modelu o fewn y bwrdd iechyd, gyda'r nod i ddatblygu modelau a thechnegau ymchwil gweithrediadol newydd ac arloesol wedi'i ysgogi gan broblemau gofal iechyd go iawn o fewn y bwrdd iechyd, yn gyflawni datrysiadau effeithiol.
- 2021-: Ymchwil weithrediadol i fodelu orthopaedeg
- Cyd-goruchwyliwr gyda Matthew Howells' (gyda Prof. Paul Harper a Prof. Daniel Gartner)
- Prosiect PhD gyda Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.
- 2021-: Ymchwil weithrediadol ar gyfer gwasanaethau ymgynghoriad fideo
- Cyd-goruchwyliwr gyda Charlotte Marshall (with Prof. Daniel Gartner and Prof. Paul Harper)
- Prosiect PhD gyda TEC Cymru.
Gorffenol
- 2023-2024: Prawf Sillafu Caerdydd
- Cyd-Ymchwilydd gyda Jonathan Morris yn PI, Rosanna Stenner yn CI, a Dylan Foster Evans yn CI.
- Creu adnodd prawf sillafu iaith Cymraeg newydd, a thablau o sgorau safonol ar gyfer Consortiwm Canolbarth y De.
- 2024: Gweithdai Modelu Mathemategol yn Indonesia
- Gyda Prof. Paul Harper yn PI, Prof. Daniel Gartner, Dr Mark Tuson, a Dr Syaribah Brice.
- Cynnal gweithdai ar optimeiddio, efelychiad cyfrifiadurol, a rhagweld yn Jakarta, Bandung, a Malang.
- 2020-2023: Modelu Gwasanaethau Meddygol Brys yn Indonesia
- £559,202 - EPSRC Global Challenges Research Fund
- Gyda Prof. Paul Harper yn PI, Prof. Daniel Gartner, Dr Vincent Knight, Dr Mark Tuson, a Dr Syaribah Brice.
- Modelu ac optimeiddio dyraniad ambiwlansys yn Jakarta.
- 2021-2022: Prawf Darllen Caerdydd
- Cyd-Ymchwilydd gyda Jonathan Morris yn PI, Rosanna Stenner yn CI, a Dylan Foster Evans yn CI.
- Creu adnodd prawf darllen iaith Cymraeg newydd, a thablau o sgorau safonol ar gyfer Consortiwm Canolbarth y De.
- 2021: Dysgu atgyfnerthol ar gyfer strategaethau ar gyfer osgoi APOD yn y fyddin
- Goruchwyliwr gyda Bryn Owen-Conway
- Prosiect trydydd blwyddyn llawn yn defnyddio Dysgu Atgyfnerthol o fewn efelychiad er mwyn optimeiddio strategaethau er mwyn osgoi APOD yn y fyddin.
- 2021: Optimeiddio timau Pokémon yn Python
- Goruchwyliwr gyda Shan Jiang a Minzhong Kong
- Prosiect Haf MSc yn defnyddio Python i optimeiddio timau o Pokémon ar gyfer brwydrau sengl a dwbl, yn defnyddio dulliau o rhaglennu cyfanrif a damcaniaeth gemau.
- 2020/2021: Optimeiddio strategaethau gweinyddion mewn system ciwio
- Goruchwyliwr gyda Isaac MacKay, Rhodri Davies
- Prosiect trydydd blwyddyn llawn/hanner yn defnyddio Prosesau Penderfynu Markov er mwyn optimeiddio strategaethau gweinyddion mewn system ciwio.
- 2020: Dadansoddi Game of Thrones gyda damcaniaeth graffiau
- Goruchwyliwr gyda Math Owen
- Prosiect trydydd blwyddyn llawn yn defnyddio damcaniaeth graffiau er mwyn dadansoddi cysylltiadau yn Game of Thrones.
- 2020-2021: Dysgu mewnblaniadau geiriau dwyieithog Saesneg-Cymraeg a chymwysiadau mewn categoreiddio testun
- £90,000 - Llywodraeth Cymru
- Cyd-Ymchwilydd gyda Dawn Knight yn PI, Luis Espinosa Anke yn CI, Vigneshwaran Muralidaran yn CI, Irena Spasic yn PI, ac Padraig Cocoran yn CI.
- Datblygu a gwerthuso gofod mewnblaniadau geiriau dwyieithod ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg yn defnyddio data testyn agored. Archwilio defnydd mewnblaniadau geiriau ar gyfer categoreiddio testun.
- 2020: Archwilio a dangos y ffyrdd y mae Ciw yn gymwys ar gyfer efelychiadau croesryw
- Goruchwyliwr gyda Yawen Tian
- Prosiect Haf MSc yn archwilio i sut ellir defnyddio Ciw, ynghyd a llyfrgelloedd Python ffynhonnell agored eraill, er mwyn adeiladu model cyfannol efelychiad digwyddiad arwahanol - deinameg systemau.
- 2020: Dysgu Peirianyddol yn Python ac R
- Goruchwyliwr gyda Alun Owen
- Hanner prosiect trydydd blwyddyn yn ysgrifennu tiwtorialau iaith Cymraeg ar gyfer gwneud dysgu peirianyddol yn Python ac R.
- 2019-2020: Geiriau Cymraeg gan rhifau: "Cymru" + "prif ddinas" = "Caerdydd"
- £90,000 - Llywodraeth Cymru
- Cyd-Ymchwilydd gyda Irena Spasic yn PI, Padraig Cocoran yn CI, and Dawn Knight yn CI.
- Datblygu a gwerthuso mewnblaniadau geiriau ar gyfer yr iaith Gymraeg yn defnyddio data testyn agored. Archwilio defnydd mewnblaniadau geiriau fel offerynnau dysgu ieithoedd.
- 2019-2020: Modelu unedau gofal dwys gyda Bwrdd Iechyd Cwm Taf
- Gyda Prof. Paul Harper a Bwrdd Iechyd Cwm Taf
- Modelu tri uned gofal dwys yn defnyddio technegau dadansoddi data ac efelychiad cyfrifiadurol er mwyn archwilio unrhyw newidiadau demograffeg neu strwythurol yn y dyfodol.
- 2019: Modelu system rhannu offer diogelwch personol yn y wasanaeth tân
- £1,606 - NESTA - Y Lab
- Gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ac Y Lab.
- Modelu stocastig offer diogelwch personol rhannedig ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Ymrannu graffiau a modelu Poisson er mwyn canfod meintiau a ffurfweddau gorau posib ar gyfer y cronfeydd.
- 2018: Creu adnoddau aml-gyfrwng rhaglennu iaith Cymraeg
- £2,500 - Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Gyda Stephanie Jones.
- Datblygu cyfres o diwtorialau fideo cyfrwng Cymraeg ar gyfer dysgu Python. Creu wefan gydag adnoddau ar ymchwil ailgynhyrchiadwy a meddalwedd cynaliadwy yn Gymraeg.
- 2017-2018: Modelu rheolweithiau diagnostig canser gyda Bwrdd Iechyd Cwm Taf
- Gyda Prof. Paul Harper, Bwrdd Iechyd Cwm Taf and Rhwydwaith Canser Cymru
- Ymchwilio i mewn i amseroedd diagnosteg canser o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf, yn defnyddio technegau dadansoddi data, modelu stochastig, ac efelychiad cyfrifiadurol. Modelu amryw o rheolweithiau diagnosteg ar gyfer nifer o wahanol safleoedd canser. Archwilio ffyrdd ymarferol o cyrraedd targedau newydd am amseroedd diagnosteg canser.
- 2017: Cymrodoriaeth y Software Sustainability Institute
- £3,000 - Software Sustainability Institute
- Cymrodoriaeth yn ganolbwyntio ar codi ymwybyddiaeth o broblemau ailgynhyrchadwyedd ymchwil cyfrifiadurol a dechnegau meddalwedd cynaliadwy.
- 2016-2017: Ysgol Haf mathemateg yn UNAM
- Cyfranogwr gyda Prosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd ac UNAM.
- Cefnogi sefydlu, a helpu rhedeg, ysgol Haf mathemateg cyn y semester prifysgol yn UNAM yn Windhoek, Namibia.
- 2015-2018: Cefnogi'r cymuned rhaglennu yn Namibia
- Cyfranogwr gyda Prosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd, UNAM a PyNam.
- Cefnogi sefydlu cynhadledd Python blynyddol yn Windhoek, Namibia.
- 2014-2018: PhD yn modelu stocastig cymhwysol
- £75,400 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (50%) a Phrifysgol Caerdydd (50%)
- Myfyriwr PhD gyda Prof. Paul Harper a Dr Vincent Knight yn goruchwylwyr.
- Modelu llwyrglo yn rhwydweithiau ciwio gan ddefnyddio modelau Markov ac efelychiad cyfrifiadurol. Modelu llif cleifion o fewn sefydliad gofal iechyd er mwyn gwerthuso ymyrraeth gofal iechyd newydd, Stay Well Plans, yng Ngwent. Datblygu darn o feddalwedd ffynhonell agored a ddefnyddwyd yn rhyngwladol, Ciw.