(In English)

Rhan fawr o’m swydd yw cyfrannu at addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Mathemateg. Weithiau mae’n anodd cyfiawnhau’r rhesymau i wneud hyn, a theimlaf fod gan bawb barn wahanol am pam y darparir hyn. Ar y tudalen hwn amlinellaf fy safbwynt personol i ar addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Barn fi yn unig yw hwn.

Y nod fan hyn yw mapio’r pethau rydym yn eu gwneud i nodau Ysgol pendant, a mapio’r nodau hyn i resymau da dros addysg Cymraeg, ymhellach nag er ei fwyn ei hun, neu oherwydd ideolegau. Felly gallwn gyfiawnhau pob gweithgaredd neu syniad sydd gennym, i’n hunain, i’n cydweithwyr, ac i’n myfyrwyr, a cheisio cynyddu dealltwriaeth dros ein gwaith.

Rhesymau dros addysg uwch cyfrwng Cymraeg

Cyhoeddwyd y ddogfen Cymraeg 20501 gan Lywodraeth Cymru yn 2017. Mae’r ddogfen yn amlinellu strategaeth y llywodraeth ar gyfer hybu a chefnogi’r iaith Gymraeg, trwy weithio tuag at darged o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Er bod y targed hwn yn fympwyol, ac efallai gwelir gan rhai yn ddibwrpas neu’n artiffisial, bydd y gweithgareddau a’r ymyriadau a ddigwyddir ar hyd y ffordd er mwyn cyrraedd y targed hwn yn gwella profiadau siaradwyr a gwasanaethau Cymraeg, yn ogystal â chyfoethogi diwylliant Cymraeg.

Mae’r strategaeth yn trafod tair thema eang: cynyddu nifer o siaradwyr Cymraeg, cynyddu defnydd y Gymraeg, a chreu amodau ffafriol ar gyfer yr iaith. Mae’r ail thema yn sôn yn enwedig am gynyddu defnydd yr iaith yn y gweithle, a’r diffyg athrawon ôl-16 sy’n medru’r Gymraeg yn y wlad. Mae’r thema olaf yn sôn am ymchwil, cymuned, a thechnoleg. Mae’r ddogfen yn nodi lle gall sectorau penodol cyfrannu, a sonnir am rôl addysg uwch. Credaf gallwn feddwl am nifer o’r problemau a rhestrir yn y ddogfen (cynyddu defnydd Gymraeg yn y gweithle, datrys diffyg athrawon iaith Cymraeg, a gwella technoleg Cymraeg) fel symptomau o’r un broblem: bod angen gwella hefrededd mewn iaith Cymraeg technegol.

Trafodir y nodau hyn ymhellach yn strategaethau cynllunio llywodraeth Cymru. Mae dogfen cynllunio addysg y llywodraeth2 yn nodi rôl addysg uwch i gyflawni gweithlu athrawon gyda sgiliau iaith priodol, ac i gymryd rhan yn datblygu ymchwil i mewn i, ac ynghylch yr iaith Gymraeg ac i addysg cyfrwng Cymraeg. Mae ein rôl mewn cynhyrchu gweithwyr gyda sgiliau mathemategol, cyfrifiadurol, ac ymchwil, trwy’r Gymraeg, wedi’i bwysleisio yn ddogfen cynllunio technoleg Cymraeg y llywodraeth3. Mae’r ddogfen yn nodi nifer o feysydd lle mae angen technoleg newydd Cymraeg sy’n cysylltu’n uniongyrchol gyda’n maes ni yn mathemateg, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial a’r iaith Gymraeg, adnoddau codio, a thechnoleg text-to-speech Cymraeg. Ein graddedigion dwyieithog ni bydd â’r sgiliau a’r cefndir mwyaf priodol i ddatblygu’r rhain.

Yn ogystal â hyn, sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2011 (o’r One Wales Delivery Plan4), gyda’r nod o sicrhau fod gan bob myfyriwr yng Nghymru’r hawl i addysg uwch cyfrwng Cymraeg o’r ansawdd uchaf5. Maent hefyd yn nodi bod angen i iaith addysg uwch adlewyrchu iaith weddill y system addysg yng Nghymru, hynny yw ni ddylai fod anfantais ar fyfyrwyr yn addysg uwch oherwydd iaith eu haddysg flaenorol (yn y naill gyfeiriad: Cymraeg i Saesneg, neu Saesneg i Gymraeg).

O rain, rhestraf mewn dim trefn benodol, rhesymau sy’n briodol i ni fel Ysgol am pam mae angen addysg uwch cyfrwng Cymraeg:

  1. Cynyddu hyfedredd iaith dechnegol yn y Gymraeg,
  2. Cyflenwi'r diffyg athrawon ôl-16 sy'n medru'r Gymraeg,
  3. Sicrhau nad yw plant yn colli'r Gymraeg ar ôl gadael ysgol,
  4. Cynyddu defnydd y Gymraeg yn y gweithle,
  5. Creu neu gyfrannu at gymuned Gymraeg,
  6. Cynhyrchu gweithwyr medrus sy'n gallu adeiladu isadeiledd digidol Cymraeg,
  7. Cynhyrchu gweithwyr medrus sy'n gallu cyfrannu at ymchwil yn y Gymraeg,
  8. Sicrhau hawl pob myfyriwr i addysg uwch cyfrwng Cymraeg,
  9. Sicrhau nad oes anfantais i fyfyrwyr oherwydd iaith unrhyw agwedd o'u haddysg.

Teimlaf ein bod wedi bod yn gorganolbwyntio ar resymau H ac I, sy’n rhoi’r myfyrwyr eu hun fel ffocws yr ymgyrch am addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Ond os nad yw myfyrwyr yn teimlo bod anfantais gyda nhw yn astudio yn Saesneg (neu hyd yn oed bod mantais astudio yn Saesneg), ac nad ydynt eisiau cymryd mantais o’u hawl i astudio trwy’r Gymraeg, yna mae’r fenter i’w weld yn ddibwynt, a bod lot o adnoddau yn cael ei wastraffu ar anghenion a ffansïau myfyrwyr efallai nad yw’n bodoli. Ond fe dyle ni fod yn feddwl am le ein graddedigion dwyieithog o fewn y genedl, sy’n rhoi’r angen i ni i gwrdd â thargedau am niferoedd o fyfyrwyr sy’n astudio’n Cymraeg, ymhellach nag er mwyn cynaladwyedd y ddarpariaeth yn unig.

Rhai rhesymau eraill sy’n cael ei adrodd dros astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yw maint dosbarthiadau, arian ychwanegol, a pherthnasau gwell gyda staff6. Mae’r rhain yn wir: mae ysgoloriaethau i’w gael ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio nifer penodol o gredydau yn y Gymraeg, mae dosbarthiadau tiwtorial cyfrwng Cymraeg lot llai, ac fel arfer yr un staff sy’n cymryd pob tiwtorial a fydd yn diwtor personol i’r myfyrwyr, felly mae perthynas gyda staff yn cryfhau. Ond sgileffeithiau rhywbeth fwy yw’r rhain, ac yn fy marn i nid ydynt yn rhesymau digon cryf i ddenu myfyrwyr. Ac wrth wthio i ddatblygu’r ddarpariaeth gall y manteision hyn diflannu, er enghraifft wrth geisio cael mwy o fyfyrwyr yn cymryd modiwlau Cymraeg bydd maint dosbarthiadau yn tyfu.

Yn bwysicach byth, teimlaf rydym yn achosi anfantais ar ein hunain trwy anghofio’r holl resymau trosfwaol hyn, a trwy pallu cyfathrebu’r rhesymau hyn i’n myfyrwyr. Dydyn ni ddim eisiau i’n myfyrwyr teimlo ei fod yn cymryd modiwlau Cymraeg oherwydd nad ydynt digon medrus i wneud y rhai Saesneg. Dydyn ni ddim eisiau i’n myfyrwyr meddwl bod pobl eraill yn meddwl hyn amdanyn nhw (er enghraifft myfyrwyr a staff di-Gymraeg). Felly mae cyfathrebu’r holl resymau yn y rhestr uchod i bawb, y siaradwyr Cymraeg a hefyd myfyrwyr a staff nad yw’n siarad Cymraeg, yn bwysig i osgoi hyn.

Rwy’n crynhoi hyn gyda’r mantra ‘‘dim oherwydd nad ydynt yn gallu ei wneud yn Saesneg; oherwydd bod ganddynt y potensial i’w wneud yn Gymraeg’’.

Nodau, targedau, a phroblemau

Fel Ysgol rydym yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn gwneud ein rhan i weithio tuag at y nodau trosfwaol cenedlaethol, y rhestrir y rhai priodol yn yr adran flaenorol. Mae ein gwaith ni yn bwydo’n uniongyrchol i mewn i rain. Er mwyn anelu ein hymdrechion yn y cyfeiriad cywir mae gennym nodau Ysgol, sydd yn gallu mapio i rai o’r rhesymau hyn.

Mae angen i’n nodau adlewyrchu potensial yr Ysgol Mathemateg i gyfrannu at y nodau a’r rhesymau cenedlaethol o pam rydym yn darparu addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Mae hefyd angen iddynt gyfrannu at ddatrys unrhyw rwystrau tuag at y nodau hyn. Felly yn gyntaf rhestrir rhai rhwystrau credaf sydd efallai a’r potensial i dal myfyrwyr nôl:

  1. Gall fod gormod o ymdrech gweinyddol ar ran y myfyrwyr. Er enghraifft gofyn am arholiadau dwyieithog yn gynnar, bwcio apwyntiad Cymraeg yn y gwasanaeth cefnogaeth mathemateg, ac yn gyffredinol deall trosolwg darpariaeth Cymraeg yn yr Ysgol;
  2. Gall astudio trwy'r Gymraeg bod, neu i'w weld i fod, yn anoddach nag yn Saesneg am amryw o resymau:
    1. cymuned lai, felly llai o fyfyrwyr eraill i weithio gyda neu ofyn am help,
    2. lefel Cymraeg ddim cystal â'u Saesneg, neu fod adnoddau Cymraeg yn fwy anodd ei ddarllen,
    3. ddim yn gyfarwydd â'r derminoleg neu nad yw'n dod yn naturiol iddynt,
    4. diffyg adnoddau Cymraeg nad yw'n uniongyrchol yn gysylltiedig â'r modiwl, er enghraifft gwerslyfrau, fideo tiwtorialau ar-lein, erthyglau academaidd, erthyglau wicipedia, ac yn y blaen,
  3. Darpariaeth Cymraeg yn gallu ei weld yn ychwanegol neu wrth ochr i'r ddarpariaeth Saesneg, sy'n hawdd i'w anghofio;
  4. Does dim cydnabyddiaeth swyddogol / amlwg eu bod wedi dilyn cwrs cyfrwng Cymraeg, felly gall yr ymdrech ychwanegol cael ei weld yn ddibwynt;
  5. Diffyg cymhelliant i ddilyn addysg Gymraeg, efallai wedi cysylltu â diffyg dealltwriaeth pam rydym yn cynnig addysg Gymraeg;
  6. Diffyg perchnogaeth a balchder yn y ddarpariaeth, gall cael ei weld fel rhywbeth sy'n digwydd i'r myfyrwyr ac nid rhywbeth maent yn eu gwneud eu hunain.

Oherwydd y problemau hyn, a’r rhesymau trosfwaol a rhoddir yn yr adran gyntaf, awgrymaf nifer o nodau, yn ychwanegol i’r rai a osodir gan y Coleg, a fydd yn gweithio tuag at y rhain a fydd hefyd yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr presennol.

Targedau penodol a rhoddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

  1. Darparu 40 credyd pob blwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg
    Mae'r targed hwn yn bwydo i mewn i resymau A, B, C, F, G, H ac I, trwy sicrhau bod dewis iaith gan fyfyrwyr, ac ein bod yn cynnig dysgu sgiliau technegol dwyieithog.
  2. Gwerth cymedrig o 10 myfyriwr pob blwyddyn sy'n astudio modiwlau Cymraeg
    Mae'r targed hwn yn bwydo i mewn i resymau A-G, trwy sicrhau rydym yn cynhyrchu digon o raddedigion gyda sgiliau technegol dwyieithog. Mae hefyd yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn gynaliadwy.
  3. Tri aelod o staff sy'n cyfrannu at addysg cyfrwng Cymraeg
    Mae'r targed hwn yn bwydo i mewn i resymau D, E ac I, trwy sicrhau ein bod yn cynnig bod amrediad amryw o ddiddordebau ymchwil, personoliaethau, a dulliau dysgu i'n myfyrwyr, a trwy ehangu'r gymuned o siaradwyr Cymraeg yn yr adran.

Awgrymaf wyth nod ychwanegol sy’n gwreiddi o’r problemau potensial uchod. Mae’r nodau ychwanegol hyn yn eilaidd i’r tri a osodir gan y Coleg, a’r prif bwrpas i’w gael yw arwain cyfeiriad datblygiad ein darpariaeth, i helpu generadu syniadau, ac i gyfiawnhau ein gwaith.

Nodau ychwanegol a awgrymir:

  1. Gwella hyfedredd iaith fathemategol
    Yn y bôn dyma un o'r prif resymau dros ddarparu addysg uwch cyfrwng Cymraeg, ac mae'n hawdd ei anghofio trwy ond meddwl am dargedau i, ii ac iii. Mae'r targed hwn yn mapio i resymau A, B, F ac G trwy gynhyrchu graddedigion gyda'r sgiliau ieithyddol priodol; yn ogystal â cheisio datrys problemau b2 ac b3, yn hwyluso profiad myfyrwyr yn astudio yn Gymraeg.
  2. Cyfathrebu rhesymau yn well
    Mae'r targed hwn yn ceisio datrys problemau e, f ac efallai c, trwy gymell myfyrwyr astudio trwy'r Gymraeg. Bydd hwn hefyd yn cynyddu tryloywder ein gwaith, efallai hybu myfyrwyr cymryd rhan yn ein gwaith (er enghraifft trwy weithio ar brosiectau datblygu adnoddau), a fydd hefyd yn cryfhau perthnasau rhwng myfyrwyr a staff.
  3. Datblygu a gwella adnoddau allanol
    Mae'r targed hwn yn mapio i resymau A, F, G ac I; yn ogystal â cheisio datrys problemau b2 ac b4. Mae adnoddau mewnol, er enghraifft nodiadau darlith, wedi ei gynnwys yn darged i, ond mae lle pwysig iawn mewn addysg myfyrwyr ar gyfer wefannau, gwerslyfrau, blogiau, erthyglau academaidd ac ati, wrth wneud prosiectau ymchwil ac astudiaethau unigol. Mae hwn yn cyfrannu at awyrgylch Cymraeg wrth astudio.
  4. Hwyluso gwaith gweinyddu myfyrwyr
    Mae'r targed hwn yn mapio i reswm I; ac y ceisio datrys problemau a ac c. Y prif beth i feddwl am fan hyn yw sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn papurau arholiad dwyieithog yn ddiofyn, a sicrhau bod yr iaith yn rhan ganolog o'u hastudiaethau.
  5. Datblygu cymuned Cymraeg o fewn yr Ysgol
    Mae'r targed hwn yn mapio i resymau C, D ac E; ac yn ceisio datrys problem b1, c.
  6. Datblygu lle'r Ysgol o fewn y gymuned Cymraeg
    Mae'r targed hwn yn mapio i reswm E. Gall hefyd cyfrannu at gyrraedd targed ii, trwy godi ymwybyddiaeth o'r ddarpariaeth a denu myfyrwyr.
  7. Cyfleoedd ar gyfer rhoi adborth ar y ddarpariaeth
    Mae'r targed hwn yn mapio i reswm E; ac yn ceisio datrys problemau c, e ac f. Bydd hefyd yn galluogi ein ni parhau i wella ar ein darpariaeth wrth i'r amgylchedd a'r problemau newid gydag amser.
  8. Cydnabyddiaeth bod myfyrwyr wedi dilyn cwrs cyfrwng Cymraeg
    Heblaw am yn rhestr y modiwlau astudiodd myfyrwyr, neu dderbynneb grant Coleg Cymraeg, does dim tystiolaeth bod myfyrwyr wedi dilyn cwrs dwyieithog. Mae'r targed hwn yn mapio i resymau A, B, F ac G trwy roi prawf i'r cyhoedd ac i gyflogwyr bod ein myfyrwyr wedi datblygu eu sgiliau trwy'r Gymraeg. Mae hefyd yn ceisio datrys problemau d, e ac f trwy roi rheswm myopig cadarn dros astudio trwy'r Gymraeg.

Mae hwn yn amlinellu fy nghredau ar addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Gobeithio ei fod yn dangos nad yw fy mrwdfrydedd yn gwreiddio o ideoleg genedlaetholgar, ond er mwyn alinio gyda pholisïau’r llywodraeth ac er budd y myfyrwyr.


  1. Welsh Government. Cymraeg 2050: Welsh language strategy, 2017. 

  2. Welsh Government. Welsh in education: Action plan 2017-2021. 2017. 

  3. Welsh Government. Welsh language technology action plan. 2018. 

  4. Welsh Assembly Government. One Wales delivery plan 2007-2011, 2007. 

  5. Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Strategic plan 2014/15-2016/17, 2014. 

  6. Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Astudio drwy gyfrwng y gymraeg, 2019.