Cyfarwyddiadau

  • Edrychwch dros y daflen gwaith hon cyn dod i’r sesiwn os gwelwch yn dda:
    • Naill ai gweithiwch trwy’r daflen gwaith yma cyn dod i’r sesiwn, a dewch ag unrhyw broblemau / anawsterau i’r sesiwn felly gallwn ni edrych drostyn nhw gyda’n gilydd.
    • Neu gweithiwch trwy’r daflen gwaith yma yn y sesiwn, yn cyfeirio unrhyw anawsterau sy’n codi wrth i chi eu cyrraedd.
  • Unrhyw beth a ddymunwch fynd dros sydd ddim yn y daflen gwaith yma, dewch ag enghreifftiau a gallwn ni gweithio trwyddynt gyda’n gilydd.

  • Rydw i’n awgrymu defnyddio Overleaf, offeryn we ar gyfer ysgrifennu a crynhoi ffeiliau \(\TeX\). Mae’n dda iawn ar gyfer dysgu \(\LaTeX\). Croeso i chi defnyddio unrhyw beth rydych yn gyfforddus gyda. Nodwch fod cyfyngiadau ar gyfrifau am ddim ar Overleaf, ac felly rydw i’n awgrymu cael fersiwn lleol o LaTeX ar gyfer gwaith difrifol.

Cynnwys

 


1. Sylfeini

Mae nifer o orchmynion LaTeX yn dechrau gyda ôl-slaes \. Mae unrhyw beth sy’n dechrau gyda % yn sylwadau ac yn cael eu hanwybyddu. Mae angen i ni ddweud wrth LaTeX pa fath o ddogfen byddwn yn creu (erthygl yn yr achos yma), ac yn lle mae’r dogfen ei hun yn dechrau a lle mae’n gorffen:

\documentclass{article}

\begin{document}
% Eich cynnwys fan hyn...
\end{document}

Enw’r cod rhwng \begin a \end y ddogfen yw’r prif gorff. Enw’r cod sy’n dod cyn \begin{document} yw’r rhaglith. Dyma le ysgrifennwn ddatganiadau o ba becynnau a ddefnyddiwn. Hefyd, dyma le mae gwybodaeth teitl yn mynd:

\title{Fy teitl arbennig}
\author{G Palmer}
\date{28/9/2016}

Fe allwn gynhyrchu dyddiad heddiw yn awtomatig gyda \today. Yna i greu’r teitl, ym mhrif gorff y ddogfen, mae angen i ni ddatgan fod eisiau creu teitl:

\begin{document}
\maketitle
\end{document}

Mae nifer o erthyglau yn cynnwys abstract, sy’n braslunio cynnwys y ddogfen yn gryno. O fewn y prif gorff, fe allwn greu abstract yn defnyddio:

\begin{abstract}
% Eich abstract fan hyn...
\end{abstract}

Her: Crëwch erthygl gyda theitl, awdur, dyddiad, ac abstract.

 


2. Adrannau

Mae adrannau yn ddefnyddiol ar gyfer trefnu eich erthygl i ddarnau hylaw ar gyfer darllen. Fe allwch weithredu’r rhain yn hawdd yn LaTeX:

\section{Crwbanod}
% Cynnwys am grwbanod fan hyn...

\section{Clociau}
% Cynnwys am glociau fan hyn...

Nodwch fod rhifo adrannau yn awtomatig, felly nid oes angen cynnwys rhifau yn deitlau’r adrannau. Fe allwch greu isadrannau (wedi’i rhifo 2.1, 2.2 a.y.b.) gyda \subsection{}.

I creu tabl cynnwys ar dechrau’r dogfen, sy’n rhestri pa tudalennau y mae pob adran yn dechrau arno yn awtomatig, gallwch rhoi’r datganiad isod ar dechrau’r dogfen:

\tableofcontents

Her: Ychwanegwch tair adran i’ch erthygl, wedi enwi ‘Bwyd & Diod’, ‘Dodrefn’, a ‘Mathemateg’. O dan yr adran Bwyd a Diod, ychwanegwch isadrannau ‘Ffrwythau’ a ‘Llysiau’. O dan yr isadran ‘Ffrwythau’, ychwanegwch dau is-isadran pellach o’r enw ‘Ffrwythau Sitrws’, ac ‘Aeron’. Arbrofwch gyda adrannau pellach.

 


3. Rhestrau & Thablau

Mae rhestrau bwled, rhestrau rhifedig, a thablau yn ffyrdd cyfleus o dangos cynnwys dogfen. Fe allwch greu rhestrau bwled gan ddefnyddio itemize, a rhoi eitemau i mewn i’r rhestr gan ddefnyddio \item. Dangosir enghraifft isod:

\begin{itemize}
  \item Dalek
  \item Cyberman
  \item Weeping angel
\end{itemize}

Ar gyfer rhestrau rhifedig, defnyddiwch enumerate:

\begin{enumerate}
  \item Dalek
  \item Cyberman
  \item Weeping angel
\end{enumerate}

Fe all rhestrau cael eu nythu, a gallwch ddefnyddio cymysgedd o itemize ac enumerate:

\begin{itemize}
  \item Cymdeithion
  \begin{enumerate}
    \item Rose
    \item Martha
    \item Donna
  \end{enumerate}
  \item Anghenfilod
  \begin{itemize}
    \item Dalek
    \item Cyberman
    \item Weeping angel
  \end{itemize}
\end{itemize}

Mae tablau yn ffordd arall o drefnu cynnwys. Fe allwch weithredu’r rhain trwy ddefnyddio tabular. Ceisiwch ddeall yr enghraifft isod:

\begin{tabular}{|c|c|c|}
Cymydaith & Cyfres & Gelyn Cyntaf \\
\hline
Rose & 1, 2 & Autons \\
Martha & 3 & Judoon \\
Donna & 4 & Adipose \\
\hline
\end{tabular}

Mae’r llinell gyntaf yn setio opsiynau’r tabl. Gwelwch fod yna tair colofn wedi’i chanoli, c (ceisiwch amnewid rhaid gyda r neu l ar gyfer colofnau aliniadau de a chwith). Mae | yn dynodi fod llinell fertigol wedi’i thynnu cyn neu rhwng colofnau. Yn yr amgylchedd tabl ei hun rydym yn ychwanegu cynnwyd rhes wrth res. Mae & yn dynodi diwedd colofn, ac i roi unrhyw cynnwys pellach yn y golofn nesa. Mae \\ yn dynodi fod y rhes wedi benu, a dylai unrhyw cynnwys pellach fod yn gelloedd yn y rhes nesa. Rhwng rhesi, mae rhoi \hline yn tynnu llinell lorweddol. Nodwch yn yr enghraifft syml hon, mae angen i bob rhes cynnwys tair colofn yn unig, er gallwn ychwanegu gymaint o resi a ddymunwn.

Rhoddir hwn:

Mae rhagor o wybodaeth ar dablau ar gael fan hyn.

Gall creu tablau mwy bert gan defnyddio’r pecyn booktabs. Gyda’r pecyn yma nid oes angen llinellau fertigol, a’r unig llinellau fertigol sydd angen yw \toprule, \midrule a bottomrule:

\usepackage{booktabs}

\begin{tabular}{ccc}
\toprule
Cymydaith & Cyfres & Gelyn Cyntaf \\
\midrule
Rose & 1, 2 & Autons \\
Martha & 3 & Judoon \\
Donna & 4 & Adipose \\
\bottomrule
\end{tabular}

Cymharwch yr allwbn yma i’r uchod:

Her: O dan yr adran Dodrefn, crëwch restr rhifedig yn rhestru’r holl ddodrefn sydd yn yr ystafell, wedi’i threfnu gan faint. O dan bob eitem, crëwch restr bwled yn rhestru rhai priodweddau arall y darn o ddodrefn yna. Arbrofwch gyda nythu pellach.

Her: O dan yr adran Ffrwythau, crëwch dabl o 7 ffrwyth, yn cynnwys gwybodaeth am eu lliw, maint, a siâp. Arbrofwch gydag aliniadau cell wahanol, a ffiniau cell.

 


4. Mathemateg

Fe allwch ysgrifennu mathemateg yn LaTeX yn dwy ffordd, yn y llinell, neu mewn amgylchedd hafaliad. Fe allwch greu mathemateg yn y llinell fel hon \(y = mx + c\) trwy lapio’r fathemateg rhwng dau arwydd $. Os ydych chi eisiau creu hafaliad ar wahân, yna defnyddiwch yr amgylchedd hafaliad:

\begin{equation}
% Eich mathemateg fan hyn...
\end{equation}

Mae nifer o weithrediadau mathemategol yn LaTeX yn sythweledol: mae +, -, =, >, <, a rhifau a llythrennau Lladin fel y teipwich chi nhw. Gallwch chi greu llythrennau bach Groegaidd trwy eil sillafu gyda ôl-slaes, \(\alpha\) yw \alpha, ac ar gyfer prif lythrennau sillafwch gyda phrif lythyren ar y dechrau, \(\Gamma\) yw \Gamma. Rhagor o symbolau defnyddiol:

  • \(\neq\) yw \neq
  • \(\geq\) yw \geq
  • \(\leq\) yw \leq
  • \(\mathbb{R}\) yw \mathbb{R}
  • \(\mathbb{N}\) yw \mathbb{N}
  • \(\mathbb{Q}\) yw \mathbb{Q}
  • \(\mathbb{C}\) yw \mathbb{C}
  • \(\in\) yw \in
  • \(\int\) yw \int
  • \(\cup\) yw \cup
  • \(\propto\) yw \propto
  • \(\infty\) yw \infty
  • \(\rightarrow\) yw \rightarrow

Ffeindiwch mwy o symbolau fan hyn. Nodwch ar gyfer rhai o’r symbolau a ffontiau mathemategol, mae angen y pecynnau amsmath a amsfonts. Ychwanegwch y rhain i’r rhaglith:

\usepackage{amsmath}
\usepackage{amsfonts}

Ar gyfer cymeriadau gydag acen, ychwanegwch y trawsffurfiad i’r cymeriad priodol, er enghraifft \(\hat{a}\) yw \hat{a}, \(\bar{\beta}\) yw \bar{\beta}. I godi i bŵer defnyddiwch ^, ac i adio indecs defnyddiwch _, er enghraifft \(x^{4a - 2}\) yw x^{4a - 2}, a \(W_{\alpha}\) yw W_{\alpha}.

  • Ysgrifennir ffracsiynau gan ddefnyddio \frac{}{} gyda’r rhifiadur yn y braced cyrliog cyntaf, a’r enwadur yn yr ail fraced cyrliog. Ysgrifennir ffracsiynau yn y llinell fel \(1/2\) gyda 1/2.

  • Ond angen teipio bracedi fel ( a [ yn uniongyrchol i mewn i LateX. Angen i fracedi cyrliog { dilyn ôl-slaes \{. Nid yw’r bracedi yma yn newid eu maint i’w cynnwys. Er mwyn gwneud hyn rhagflaenwch y braced chwith gyda \left a’r braced de gyda \right. Cymharwch \((\frac{x^y}{a^b})\) gyda \(\left(\frac{x^y}{a^b}\right)\), wedi’i chreu gan (\frac{x^y}{a^b}) a \left(\frac{x^y}{a^b}\right) yn eu trefn. Rhaid i \left a \right dod yn barau; os oes ond angen un braced, amnewidiwch y braced diangen gyda ., e.e. \left[ a \right..

  • Er mwyn creu matricsau, defnyddiwch yr amgylchedd pmatrix (edrychwch hefyd ar matrix, bmatrix, vmatrix, ayyb. Mae’r gystrawen yn debyg iawn i dablau. Mae’r matrics canlynol wedi’i chreu gan y cod isod:

    \[\begin{pmatrix}a & b \\ c & d\end{pmatrix}\]
    \begin{pmatrix}
    a & b \\
    c & d
    \end{pmatrix}
    
  • Defnyddir amgylchedd arall, yr amgylchedd align i greu hafaliadau sydd wedi’i alinio gan yr arwydd ‘=’. Er enghraifft, mae’r darn o fathemateg ganlynol wedi’i chreu gan y cod isod:

    \[\begin{align}(x+2)(x-3)+6 &= x^2 -3x + 2x - 6 + 6\\ &= x^2 + x\\ &= x(x+1)\end{align}\]
    \begin{align}
    (x+2)(x-3)+6 &= x^2 -3x + 2x - 6 + 6\\
    &= x^2 + x\\
    &= x(x+1)
    \end{align}
    

    Yn debyg i dablau a matricsau, mae \\ yn dweud wrth LaTeX pryd i ddechrau llinell newydd. Hefyd rhaid rhagflaenu’r holl arwyddion = sydd yw alinio gan &.

  • Ysgrifennir hafaliadau darn wrth ddarn yn LaTeX gyda’r amgylchedd cases. Eto, mae gan hwn cystrawen debyg i fatricsau, araeau a thablau. Astudiwch yr enghraifft ganlynol o’r ffwythiant step Heavyside:

    \[H(x) = \begin{cases} 0 & x < 0\\\frac{1}{2} & x = 0\\1 & x > 0\end{cases}\]
    \begin{equation}
    H(x) =
      \begin{cases}
        0 & x < 0\\
        \frac{1}{2} & x = 0\\
        1 & x > 0
      \end{cases}
    \end{equation}
    

Her: Ail-grëwch y rhain yn LaTeX:

  1. \[\frac{\partial c}{\partial t} = D \nabla^2 \left( c^3 - c - \gamma \nabla^2 c \right)\]
  2. \[H = \frac{1}{2} \int \left[ \sum_i \left( \frac{\partial \mathbf{S}}{\partial x_i} \right)^2 - J(\mathbf{S}) \right] dx\]
  3. \[e = \lim_{n \rightarrow \infty} \left( 1 + \frac{1}{n} \right)^n\]
  4. \[\mathbf{J} = \begin{bmatrix} \frac{d f_1}{d x_1} & \cdots & \frac{d f_1}{d x_n}\\ \vdots & \ddots & \vdots \\ \frac{d f_n}{d x_1} & \cdots & \frac{d f_n}{d x_n} \end{bmatrix}\]
  5. \[\begin{align}(\theta-20)(\theta+6)+169 &= \theta^2 -20\theta +6\theta -120 + 169\\ &= \theta^2 - 14\theta + 49\\ &= (\theta - 7)^2\end{align}\]
  6. \[\mathbb{E}_X \left[ g(X) \right] \geq g\left( \mathbb{E}_X [X] \right)\]

 


5. Ffigyrau

Ychwanegir ffigyrau trwy ddefnyddio’r amgylchedd figure. Mae’r amgylchedd yma yn galluogi capsiynau:

\begin{figure}
  % Eich ffigwr yma...
  \caption{Disgrifiad cryno o'r ffigwr.}
\end{figure}

Fe ellir ychwanegu lluniau trwy ddefnyddio’r pecyn graphicx, a’r gorchymyn \includegraphics. Mae’r gorchymyn yma yn cymryd lled fel opsiwn, ac mae’n arferol i nodi hwn yn nhermau \textwidth. Yn gyntaf rhaid cynnwys y pecyn yn y rhaglith:

\usepackage{graphicx}

Gadewch i ni ychwanegu fy_llun.png, a fyddwn yn rhoi hwn yn yr un ffolder a’r brif dogfen, i fod yn hanner lled y tecst. Nawr dylwn ni cael:

\begin{figure}
  \includegraphics[width=0.5\textwidth]{fy_llun.png}
  \caption{Disgrifiad cryno o'r ffigwr.}
\end{figure}

Gan ddefnyddio’r pecyn subcaption gallwn rhoi is-ffigyrau o fewn ffigyrau. Mae amgylchedd subfigure yn gweithio’n debyg i’r amgylchedd figure, ac yn galluogu capsiynau ar gyfer yr is-ffigyrau ac hefyd y ffigwr llawn:

\begin{figure}
  \begin{subfigure}{0.5\textwidth}
    \includegraphics[width=\textwidth]{fy_llun_1.png}
    \caption{Disgrifiad cryno o'r is-ffigwr cyntaf.}
  \end{subfigure}
  \begin{subfigure}{0.5\textwidth}
    \includegraphics[width=\textwidth]{fy_llun_2.png}
    \caption{Disgrifiad cryno o'r ail is-ffigwr.}
  \end{subfigure}
  \caption{Capsiwn ar gyfer yr holl ffigwr.}
\end{figure}

Her: Ffeindiwch lun o ddarn o ddodrefn ar y we, a’i lawrlwytho. Rhowch y llun fel ffigwr yn yr adran ‘Dodrefn’, ychwanegwch gapsiwn priodol.

Fe allwch greu diagramau yn defnyddio’r pecyn tikz. Mae hwn yn becyn pwerus iawn a gallwch ddefnyddio i dynnu llun bron pob diagram fyddwch chi angen. Rhaid ei chynnwys yn y rhaglith:

\usepackage{tikz}

Mae triniaeth sylfaenol yn cynnwys tynnu llinell goch rhwng dau gyfesuryn (0, 0) a (0, 2):

\draw[draw=red] (0, 0) -- (0, 2);

tynnu llun cylch glas gyda radiws 5 gyda chanol yn gyfesuryn (10, 20):

\draw[fill=blue] (10, 20) circle (5);

a rhoi tecst wrth gyfesuryn (4, 5):

\node at (4, 5) {Some text};

Rhaid i bob gorchymyn tikz gorffen gyda hanner colon. Tynnir y diagram llif canlynol gyda’r cod tikz isod:

Siart Llif Tikz

\begin{tikzpicture}
  \draw[->] (0, 0) -- (2, 0);
  \draw[fill=yellow] (2, 0) -- (3, 1) -- (4, 0) -- (3, -1) -- cycle;
  \node at (3, 0) {Bwyta?};
  \draw[->] (3, 1) -- (3, 3) node[pos=0.5, left] {Ie};
  \draw[fill=orange] (3, 4) circle (1) node {Llawn};
  \draw[->] (4, 0) -- (6, 0) node[pos=0.5, above] {Na};
  \draw[fill=orange] (7, 0) circle (1) node {Llwglyd};
\end{tikzpicture}

Her: Ceisiwch ail-greu’r diagram hwn o giw yn defnyddio tikz:

Diagram Ciw Tikz

 


6. Labeli

Labeli yw sut y gallwn gyfeirio at adrannau, ffigyrau, a hafaliadau (a llawer o bethau arall) yn LaTeX. Gallwn wneud hyn trwy’r gorchymyn \label{}. I labelu adran, atodwch y gorchymyn yma i’r gorchymyn adran:

\section{Crwbanod}\label{sec:crwbanod}

Fan hyn sec:crwbanod yw’r label rydw i wedi rhoi i’r adran er mwyn cyfeirio ato yn hawdd. Fe allaf alw’r adran hon gan ddefnyddio \ref, er enghraifft:

Yn flaenorol, yn Adran~\ref{sec:crwbanod} fe drafodir crwbanod.

Nodwch y ~ fan hyn. Mae hwn i wneud yn siŵr fydd yna dim toriad llinell rhwng y gair ‘Adran’ a’r rhif a chrëwyd gan y gorchymyn \ref.

Hefyd fe ellir labelu ffigyrau a hafaliadau:

\begin{equation}\label{eqn:pythagoras}
a^2 + b^2 = c^2
\end{equation}

\begin{figure}
  \includegraphics[width=0.5\textwidth]{fy_llun.png}
  \caption{Disgrifiad cryno o'r ffigwr.}
  \label{fig:fyllun}
\end{figure}

Her: Yn eich erthygl, labelwch bob adran, isadran, hafaliad, a ffigwr. Ysgrifennwch gwpl o frawddegau yn cyfeirio at bob un o rain.

 


7. Cod

Ychwanegir pytiau cod trwy ddefnyddio pecyn o’r enw listings. Yn gyntaf ychwanegwch y pecyn i’r rhaglith:

\usepackage{listings}

Nawr ellir ychwanegu cod yn dwy ffordd, trwy deipio’r cod, neu trwy fewnbynnu ffeil. Er mwyn teipio’r cod yn uniongyrchol, defnyddiwch yr amgylchedd lstlisting:

\begin{lstlisting}
for i in range(100):
    print(i ** 2)
\end{lstlisting}

Os oes cod mewn ffeil gadach chi (er enghraifft mewn ffeil .py, neu .R) yna gallwch ddefnyddio \lstinputlisting mewn ffordd debyg i \includegraphics. Gallwch hyn yn oed setio iaith y cod i wneud yn siŵr fod yna uwch-oleuo cystrawen ystyrlon (er dylach gwneud yn siŵr fod yr iaith wedi’i chefnogi):

\lstinputlisting[language=Python]{source_code.py}

Pecyn da arall ar gyfer cynnwys pytiau cod yw minted sy’n galluogu uwch-oleuo cystrawen bert.

Her: O dan eich tabl o ffrwythau, ychwanegwch ffigwr sy’n dangos y cod LaTeX a ddefnyddioch i greu’r tabl. Ychwanegwch gapsiwn priodol, labelwch y ffigwr, a ysgrifennwch frawddeg neu dau yn cyfeirio ato.

 


8. Amgylcheddau

Pob tro rydym yn dechrau adran gyda datganiad sy’n dechrau gyda \begin{ a’i gorffen gyda \end{, mae’r cynnwys o fewn y datganiadau yn tu fewn i amgylchedd. Dyma rhestr o rhai amgylcheddau defnyddiol nad ydynt wedi edrych arnyn nhw hyd yn hyn:

  • \begin{center} ac \end{center}: Canoli’r holl cynnwys.
  • \begin{figure} ac \end{figure}: Amgylchedd ar gyfer ffigyrau, lluniau a diagrammau.
  • \begin{table} ac \end{table}: Amgylchedd yn debyg i figure ar gyfer tablau gyda tabular.
  • \begin{multicols} ac \end{multicols}: Amgylchedd i rhoi’r ysgrifen mewn colofnau.
  • \begin{proof} ac \end{proof}: Amgylchedd ar gyfer ysgrifennu profion mathemategol.

Gan ddefnyddio’r pecyn asmthm cawn mynediau i nifer o gorchmynion ar gyfer creu amgylcheddau defnyddiol. Defnyddiwn nhw fel arfer ar gyfer theoremau, diffiniadau, gosodiadau, sylwadau ac yn y blaen.

I ddiffinio amgylchedd Theorem yn y rhaglith:

\usepackage{asmthm}

\newtheorem{theorem}{Theorem}

Mae hwn yn rhoi algylchedd theorem rhifol sy’n dechrau gyda’r gair Theorem. Nawr allwn ni ysgrifennu theorem a prawf fel y ganlyn:

\begin{theorem}
  $\log_a{B} + \log_a{C} = \log_a{BC}$
\end{theorem}

\begin{proof}
  Gadawer i $x = \log_a{B}$ and $y = \log_a{C}$.
  Nawr:
  \begin{align}
    a^x a^y &= BC\\
    a^{x + y} &= BC\\
    x + y &= \log_a{BC}\\
    \log_a{B} + \log_a{C} &= \log_a{BC}
  \end{align}
  fel sydd angen.
\end{proof}

Her: Dewisiwch day theorem syml a rhowch eu profion trwy diffinio amgylchedd theorem newydd.

Her: Crëwch amgylchedd diffiniad a’i ddefnyddio i diffinio dau term mathemategol.

 


9. Llyfryddiaethau

I greu llyfryddiaethau a chyfeiriadau, mae angen ychwanegu ffeil .bib yn cynnwys holl wybodaeth y cyfeiriadau a ddefnyddiwyd. Dylai’r ffeil cynnwys rhestr o gofnodion yn edrych fel hwn:

@article{jackson57,
  author  = "Jackson, J.",
  title   = "Networks of waiting lines.",
  year    = "1957",
  journal = "Operations research",
  volume  = "5",
  number  = "4",
  pages   = "518--521"
}

Mae’r llinell gyntaf fan hyn jackson57 yw’r dynodwr a ddiffiniwyd gan y defnyddiwr, a hwn a ddefnyddir i gyfeirio at yr erthygl yn y ffeil .tex. Mae pob llinell arall yn disgrifio’r erthygl ei hun. Mae cael gafael ar y wybodaeth hon yn hawdd os ydych yn defnyddio Google Scholar, chwiliwch am yr erthygl, cliciwch Cite ac yna BibTeX.

Fe allwch gyfeirio at nifer o wahanol fath o ffynhonnell gwybodaeth, gan gynnwys llyfrau a gwefannau, mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

I gyfeirio at ffynhonnellau yn y prif gorff, defnyddiwch y gorchymyn \cite:

Fe astudiwyd rhwydweithiau o giwiau yn gyntaf yn \cite{jackson57}.

Yn olaf, rhaid dweud wrth LaTeX ble i ffeindio’r ffeil .bib ac i allbynnu llyfryddiaeth. Gadewch i ni alw ein ffeil bib yn refs.bib. Ar ddiwedd y ddogfen (cyn \end{document}) ychwanegwch:

\bibliographystyle{plain}
\bibliography{refs}

Her: Chwiliwch am erthygl, llyfr a gwefan (dibynadwy), a ychwanegwch nhw i ffeil .bib. Ysgrifennwch frawddegau sy’n cyfeirio at y ffynhonnellau yma, ac ychwanegwch lyfryddiaeth i’ch erthygl.

 


10. Cyflwyniadau

Hyd yn hyn rydym ond wedi ystyried y dosbarth dogfen article. Gallwn creu cyflwyniadau fel rhai ‘powerpoint’ gyda latex trwy defnyddio’r dosbarth dogfen beamer. Dylai rhaglith y cyflwyniad beamer edrych fel hyn:

\documentclass{beamer}

\begin{document}
% Eich cynnwys fan hyn...
\end{document}

Mae cyflwyniad Beamer yn cynnwys cyfres o ‘fframau’. Mae gan rhain cynnwys tu fewn i amgylchedd frame. Gall ffrâm cael teitl, wedi’i osod gan \frametitle{:

\begin{frame}
  \frametitle{Teitl fy ffr\^{a}m}
  Cynnwys...
\end{frame}

Gallwn cynnys popeth rydym wedi edrych arnynt hyd yn hyn o fewn cynnwys y ffrâm: rhestrau, tablau, ffigyrau, mathemateg a cod. Hefyd mae gan Beamer gorchmynion pellach ar gyfer trin troshaenau:

  • Mae \pause yn splitio ffrâm: rhoddir cynnwys cyn y gorchymyn hyn ar un ffrâm, ac ar y ffrâm nesaf yn bydd y cynnwys cyn ac ar ôl y gorchymyn yma.
  • Mae \onslide<3>{} a \only<3>{} yn opsiynnau troshaen fwy hyblyg. Bydd y cynnwys o fewn y cromfachau cyrliog yn dangos are y troshaen y rhif sydd o fewn y symbolau < ac >; yn yr achos yma ar y 3ydd troshaen. I dangos cynnwys ar fframau o’r trydydd troshaen ymlaen gallwn ychwanegu llinell doriad: <3->.
  • Nodwch bod \onslide ac \only yn ymddwyn bach yn wahanol o rhan leoliadau. Cymharwch:

    \begin{frame}
      \frametitle{Enghreifftiau troshaen}
      \onslide<1->{Cyntaf}
      
      \onslide<2>{Ail}
      
      \onslide<3>{Trydydd}
    \end{frame}
    

    i:

    \begin{frame}
      \frametitle{Enghreifftiau troshaen}
      \only<1->{Cyntaf}
      
      \only<2>{Ail}
      
      \only<3>{Trydydd}
    \end{frame}
    

Gallwn addasu cyflwyniadau Beamer trwy dewis thema a thema lliw. I osod rhain, defnyddiwch y gorchmynion isod mewn rhaglith y dogfen Beamer (mae’r enghraifft yma yn dewis y thema Singapore a’r thema lliw crane):

\usetheme{Singapore}
\usecolortheme{crane}

Cymerwch cipolwg ar y matrics steiliau beamer i weld esiamplau o holl cyfuniadau y themau a’r themau lliw.

Her: Crëwch cyflwyniad tri ffrâm yn disgrifio theorem mathemategol o’ch dewis. Dewisiwch thema a thema lliw, defnyddiwch mathemateg, ychwanegwch ffigwr, ac arbrofwch gyda opsiynnau troshaen.

 


Yn olaf, efallai bydd nifer ohonoch yn ffeindio’r templed yma o werth wrth ysgrifennu eith prosiectau blwyddyn olaf. Dyma linc i prosiect Overleaf gyda datrysiadau i rhai o’r heriau.